Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:

Ymateb

Fel y mae’r pwyllgor wedi’i nodi, mae’r Rheoliadau yn atal landlord rhag rhoi hysbysiad os caiff dyletswyddau statudol penodol eu torri, sef darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni a bodloni gofynion Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022.

Mae Rhan 4 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio rhesymeg y Rheoliadau. Bydd unrhyw effaith niweidiol yn cael ei lliniaru cyhyd ag y bo’r landlord yn cydymffurfio â’r dyletswyddau statudol a enwir uchod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi’i bodloni bod y Rheoliadau yn gydnaws â hawliau’r Confensiwn.  

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ymateb y Gweinidog i’r pwynt uchod, ac nid oes ganddi unrhyw beth arall i’w ychwanegu.